What better topic for my latest blog?! It has been a few months since I last blogged on the explosion of Social Network Status updates, and a thought has since occurred. I couldn’t help but notice the large spike in Sport related status updates in recent months. The Go ON UK Give an Hour Summer of Sports Campaign which ran from 30th June to 13th July made me think about how many major sport events have happened since the April blog. Whether it was the last day of Premier League action in which a last minute goal won the title for Manchester City or the drama in the Champions League final in May. One fact is, you didn’t have to watch these matches in person, on the television or online to know the results, because as a social network user the chances are you would have been kept informed throughout.
…..and then there was the…… London Olympics 2012; which through technology could be viewed live through phones, TV’s, game consoles and tablets. We could even follow events, commentators and competitors through social media platforms. So if you are a social media user, it is now almost impossible to avoid finding out the result of a major sporting or significant news headline. This compares to the situation of a mere 4 years ago when you needed to trawl websites as well as waiting for the content to be written/created.
Twitter revealed that the Opening Ceremony of the London Olympics on July 27, produced over 9.5 million tweets, which surpassed the total for the entire Beijing Olympics in 2008. This demonstrates how far and how fast Twitter has evolved as a platform over four years. In London, it was common to see athletes during interviews thanking their followers or a # (hashtag) reference being made; recognition of the role social media now plays in athletes maintaining a relationship with the public, as well as in promoting a public image.
With the Paralympics now underway, it will be interesting to see whether these spikes in social media activity continue, as athletes continue to inspire through sporting excellence. Either way, moments like these need to be grasped to encourage those that are offline, most of whom are likely to be older and/or disabled, to see the benefits of the internet, and exploit the technology available. It would be interesting to see how many people have been encouraged to go on the internet for the first time as a result of the ‘summer of sport’.
When Twitter statistics are revealed in a couple of weeks, will it be the Olympics or Paralympics which had the largest Social Media impact?... I think the Olympics will edge it, but by a smaller gap, than may be anticipated! What do you think?... and what role do you see social media playing in future major events - sporting or otherwise?
Haf y Campau
Beth allai fod yn fwy addas ar gyfer fy mlog diweddaraf?! Mae yna rai misoedd wedi mynd heibio ers i mi flogio ddiwethaf ar y twf aruthrol mewn diweddariadau statws ar y Rhwydweithiau Cymdeithasol, ac mae rhywbeth wedi fy nharo. Roedd yn anodd peidio sylwi ar y cynnydd mawr mewn diweddariadau statws sy’n gysylltiedig â chwaraeon dros y misoedd diwethaf. Fe wnaeth Ymgyrch Rhowch Awr Haf y Campau Go ON UK, a gynhaliwyd rhwng 30 Mehefin ac 13 Gorffennaf, wneud i mi feddwl faint o ddigwyddiadau mawr ym myd y campau yr ydym ni wedi’u gweld ers blog mis Ebrill. O ddiwrnod olaf Uwch-gynghrair Lloegr pan gipiodd Manchester City y teitl gyda gôl munud olaf i ddrama rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr ym mis Mai. Y gwir amdani yw, doedd dim rhaid i chi wylio’r gemau hyn yn bersonol, ar y teledu neu ar-lein i wybod beth ddigwyddodd, gan y byddech chi fel defnyddwyr rhwydweithiau cymdeithasol fwy na thebyg wedi cael yr wybodaeth ddiweddaraf.
…..ac yna fe ddaeth ……Gemau Olympaidd Llundain 2012. Drwy ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf roedd yn bosibl eu gwylio’n fyw dros y ffôn, ar y teledu neu drwy gonsolau chwarae neu gyfrifiaduron llechen. Gallem ni hyd yn oed ddilyn y digwyddiadau, y sylwebyddion a’r cystadleuwyr drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Felly os ydych chi’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, mae bron yn amhosibl erbyn hyn osgoi gweld canlyniad digwyddiad chwaraeon mawr neu bennawd newyddion pwysig. Mae hyn yn wahanol iawn i’r sefyllfa gwta bedair blynedd yn ôl pan oedd yn rhaid cribo gwefannau a disgwyl i’r cynnwys gael ei ysgrifennu/ei greu.
Datgelodd Twitter fod Seremoni Agoriadol Gemau Olympaidd Llundain ar 27 Gorffennaf wedi cynhyrchu dros 9.5 miliwn o negeseuon trydar, sy’n fwy na’r cyfanswm ar gyfer Gemau Olympaidd 2008 ar eu hyd. Dyma ddangos pa mor bell a pha mor gyflym y mae Twitter wedi esblygu dros bedair blynedd. Yn Llundain, roedd athletwyr yn aml yn diolch i’w dilynwyr neu’n crybwyll # (hashtag) yn ystod cyfweliadau; sy’n brawf o swyddogaeth y cyfryngau cymdeithasol erbyn hyn wrth gynnal perthynas â’r cyhoedd, yn ogystal â hyrwyddo delwedd gyhoeddus.
Wrth i’r Gemau Paralympaidd fynd yn eu blaenau, bydd yn ddiddorol gweld a fydd y prysurdeb hwn yn y cyfryngau cymdeithasol yn parhau, wrth i’r athletwyr barhau i ysbrydoli drwy ragoriaeth. Beth bynnag am hynny, mae angen achub ar y cyfle i annog y rheini nad ydynt ar-lein, gyda’r mwyafrif ohonynt yn hŷn neu’n anabl fwy na thebyg, i weld manteision y rhyngrwyd, a defnyddio’r dechnoleg sydd ar gael. Byddai’n ddiddorol gweld faint o bobl sydd wedi cael eu hysgogi i ddefnyddio’r rhyngrwyd am y tro cyntaf yn sgil ‘haf y campau’.
Pan gaiff ystadegau Twitter eu datgelu ymhen rhai wythnosau, ai’r Gemau Olympaidd neu’r Gemau Paralympaidd fydd wedi cael yr effaith fwyaf ar y Cyfryngau Cymdeithasol?... Y Gemau Olympaidd aiff â hi siŵr o fod, ond gyda llai o fwlch rhwng y ddau na’r disgwyl! Beth yw’ch barn chi?... a pha ran y bydd y cyfryngau cymdeithasol yn ei chwarae yn nigwyddiadau mawr y dyfodol, yn ddigwyddiadau chwaraeon neu mewn meysydd eraill?